Cyfleoedd Tendro
Tendr ar gyfer gosod, tynnu a storio Goleuadau’r Nadolig
Cyhoeddi’r tendr 18 Gorffennaf 2023
Dyddiad Cau ar gyfer y Tendr: 5pm ar 18 Awst 2023
Mae Goleuadau’r Nadolig yn cael eu gosod ddechrau mis Tachwedd yn barod ar gyfer digwyddiad troi ymlaen ar y trydydd penwythnos ym mis Tachwedd a fydd eleni nos Wener 17 Tachwedd 2023. Maent yn cael eu tynnu i lawr a’u symud i’w storio yn ystod ail wythnos mis Ionawr.
Dolen i’r Ddogfen Dendr: Tendr Goleuadau’r Nadolig 2023
Mae’r Cyngor Dref bellach wedi dyfarnu’r contract i Elsbury Access Platforms (cofnod 51.1 TC 18.9.23)
Tendr ar gyfer cyflenwi arddangosfeydd blodau haf (2024)
Cyhoeddi’r tendr 1 Awst 2023
Dyddiad Cau ar gyfer y Tendr: 5pm ar 18 Awst 2023
Mae’r arddangosfeydd blodau yn cynnwys basgedi crog a phlanhigion rheiliau wedi’u gosod o amgylch canol y dref yn ystod diwedd mis Mai a’u symud ym mis Medi, a’r cynwysyddion planhigion wedi’u dychwelyd i’r cyflenwr i’w hailblannu ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Maent yn elfen allweddol yng ngwobrau llwyddiannus Cymru yn ei Blodau.
Dolen i’r Ddogfen Dendr: Tendr ar gyfer cyflenwi arddangosfeydd blodau 2024
Mae’r Cyngor Dref bellach wedi dyfarnu’r contract i J S Lee Services Ltd (cofnod 61.1 TC 16.10.23)