Amdanom ni

Genedigaeth Cyngor Tref Caerffili

Daeth Deddf Llywodraeth Leol 1972 â newidiadau sylweddol i lywodraeth leol yng Nghymru.

O ganlyniad i’r ddeddfwriaeth sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau a’i dasg gyntaf oedd adolygiad cymunedol arbennig a arweiniodd at ad-drefnu’r patrwm presennol o Blwyfi Gwledig, Ardaloedd Trefol a Bwrdeistrefi, a byddai pob un ohonynt yn dod yn gymunedau o dan y strwythur newydd i gynhyrchu patrwm a fyddai’n gweddu’n well i gefnogi Cynghorau Cymuned.

Ym 1985, creodd y Comisiwn Ffiniau 14 o ardaloedd cymunedol yn Ardal Cwm Rhymni. Arweiniodd hyn at ffurfio Cyngor Dref Caerffili. Mae’r ardal gymunedol, sydd bellach wedi’i gwmpasu gan y Cyngor Dref, yn cynnwys y wardiau gyda’i gynrychiolwyr ei hun. Dyma yw Ward Morgan Jones gyda 5 aelod a Ward Sant Martin gyda 7 aelod.

Mae’r cyngor llawn yn cyfarfod unwaith y mis (ar wahân i Awst a Rhagfyr) a gellir gweld agendâu a chofnodion ar y wefan.

Mae holl Gyfarfodydd y Cyngor Dref yn agored i’r wasg a’r cyhoedd. Os oes mater penodol yr hoffech siarad arno, gellir trefnu hyn trwy roi hysbysiad i Glerc y Dref.

Mae’r Cyngor Tref yn darparu cymorth ariannol i sefydliadau lleol gan fod eu haelodau yn byw yn ardal y Cyngor Tref. Am ragor o wybodaeth gweler Grantiau