Datganiad Hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan www.caerphillytowncouncil.co.uk/cy/

Rydym am i gynifer o bobl â phosibl i allu defnyddio’r wefan hon.  Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • chwyddo’r testun heb iddo fynd oddi ar ochrau’r sgrin
  • welywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • welywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar ran fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon ar gael yn llawn o ran hygyrchedd:

  • nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin

Adroddwch am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.  Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â’n tîm gwe drwy e-bost at webdev@unitedgraphicdesign.com

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Rydym wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Nid yw rhai o’n dogfennau PDF a dogfennau eraill a gyhoeddwyd wedi’u fformatio fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin.

Ein nod yw disodli dogfennau PDF a Word ar ein gwefan gyda thudalennau HTML hygyrch lle bo hynny’n bosibl.  Lle mae angen dogfennau PDF a Word o hyd, ein bwriad yw gwneud y rhain yn hygyrch.