Digrifwr Enwog
Oeddech chi’n gwybod bod Tommy Cooper wedi’i eni ar 19 Mawrth 1921 yng Nghaerffili. Dechreuodd Tommy weithio ym myd adloniant ym 1947 a daeth yn gyflym yn un o hoff gomedïwyr y genedl mewn gyrfa a barhaodd am 30 mlynedd. Roedd fel arfer yn gwisgo ffès coch a’i nodwedd oedd ei fod yn gonsuriwr nad oedd ei driciau byth yn llwyddo. Roedd ganddo bresenoldeb llwyfan sylweddol, ar daldra o 6 troedfedd 5 modfedd. Ar 15 Ebrill 1984 bu farw o drawiad ar y galon, yn fyw ar y teledu. Mae cerflun i goffáu Tommy i’w weld ar y Twyn yng nghanol Caerffili.