Sut i ddod yn gynghorydd

I fod yn gynghorydd lleol rhaid i chi fod o leiaf 18 oed ac yn ddinesydd Prydeinig, y Gymanwlad neu Ewropeaidd. Mae angen i chi hefyd fod yn etholwr lleol neu wedi byw, gweithio neu berchen ar eiddo yn yr ardal am o leiaf flwyddyn.

Mae dau brif lwybr i ddod yn gynghorydd trwy sefyll mewn etholiad dros blaid / grŵp gwleidyddol neu fel aelod annibynnol.

Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn cael eich enwebu’n swyddogol wrth i ddyddiad yr etholiad agosáu. Mae hyn yn golygu cael 10 o bobl i lofnodi papurau enwebu (rhaid i lofnodwyr fod yn etholwyr cofrestredig yn y ward lle rydych am sefyll). Cyfethol yw lle mae’r cyngor yn dewis llenwi’r seddi gwag os nad oes digon o ymgeiswyr ar adeg yr etholiad.

Dylai cynghorwyr weithio gyda’i gilydd i wasanaethu’r gymuned