Hanes
Yn enwog am ei chastell a’i chaws, mae’r dref yn dyddio’n ôl cannoedd o flynyddoedd. Adeiladwyd y castell rhwng 1268 a 1271 gan Gilbert de Clare i ddarostwng yr arglwyddi Cymreig lleol. Dyma’r castell mwyaf yng Nghymru ac yn ail yn unig i Windsor. Cyfunwyd waliau enfawr, tyrau a phorthdai gydag amddiffynfeydd dŵr i gwmpasu ardal o 30 erw. Dinistriwyd y castell yn rhannol yn ystod y Rhyfel Cartref, a adawodd dŵr y tŵr de-ddwyreiniol yn pwyso ar ongl simsan. I gael mwy o wybodaeth fanwl am hanes yr ardal, cliciwch ar y ddolen isod.