Dolenni i’r gymuned

Ydych chi’n sefydliad lleol sy’n darparu gwasanaeth i drigolion tref Caerffili.  Os hoffech gael dolen i’ch gwefan eich hun ar y dudalen hon, cysylltwch â Chlerc y Dref.

Gallwch hefyd hyrwyddo unrhyw ddigwyddiadau lleol yn nhref Caerffili.  Cwblhewch y Ffurflen Ddigwyddiadau a dychwelwch hi i Glerc y Dref.

Cynllun Chwaraeon yr Haf

Bydd lleoedd noddedig cyfyngedig ar gael ar y gwersylloedd chwaraeon haf.  Mae lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu.  Mae trigolion sy’n byw yn Ward Morgan Jones a Ward Sant Martin yn gymwys i wneud cais am y lleoedd noddedig.

Wrth archebu, bydd angen i bob plentyn fod yn aelodau cerdyn smart a bydd angen manylion cyswllt cyfredol.  Bydd archebion yn cael eu gwneud drwy Ganolfan Hamdden Caerffili.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Datblygu Chwaraeon, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.  Rhif Ffôn: 01495 235464

Cynllun Gwobrwyo Gwasanaeth Cymunedol

Cafodd y Cynllun Gwobrwyo a gyflwynwyd yn 2019 ei atal yn ystod y pandemig. Ailsefydlodd y Cyngor Dref y cynllun yn 2023. Bydd y cyhoedd yn gallu enwebu ar gyfer un Wobr Ddinesig a fydd yn cael ei gwneud i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’r gymuned. Er ei fod yn bennaf ar gyfer unigolion, gall y wobr gael ei roi i gymuned neu grŵp gwirfoddol sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.  Gellir gwneud enwebiadau gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein (dolen isod) neu argraffu a chyflwyno copi caled.   Gellir derbyn enwebiadau ar unrhyw adeg.  Bydd pob cofnod yn cael ei wirio a’i gyflwyno’n flynyddol i’r Cyngor Dref ar gyfer penderfyniad. Yna bydd trefniadau’n cael eu gwneud ar gyfer cyflwyniad gan Faer y Dref i’r enwebai llwyddiannus.