Cyfarfodydd
Cynhelir cyfarfodydd Cyngor y Dref ar y trydydd dydd Llun o bob mis gyda seibiant yn Awst ac Rhagfyr. Mae cyfarfodydd Cyngor y Dref bellach ar sawl lleoliad, gan gynnig y gallu i fynychu’n bersonol yn Canolfan Gymuned Twyn neu fynychu o bell.
Fel arfer, dechrau cyfarfodydd am 6.30yh.
Cyflwynwyd cyfarfodydd hybrid ym mis Chwefror 2022. Mae hybrid yn golygu sawl lleoliad, gan gynnig y cyfle i fynychu’r cyfarfod yn bersonol yn Canolfan Gymuned Twyn neu o bell trwy’r rhyngrwyd. I ymuno â’r cyfarfod o bell bydd angen i chi gysylltu â Chlerc y Dref trwy e-bost: caerphillytowncouncil@outlook.com. Mae’n well gwneud hyn cyn amser y cyfarfod fel y gellir anfon dolen gwahoddiad.
Dylai unrhyw unigolyn o’r cyhoedd sy’n dymuno mynychu a siarad ar unrhyw eitem ar yr agenda (y rhannau hynny o’r cyfarfod sydd ar agor i’r cyhoedd) roi gwybod i Glerc y Dref ymlaen llaw cyn y cyfarfod fel y gellir hysbysu Maer y Dref neu unigolyn arall sy’n cadeirio’r cyfarfod. Sylwch y caiff terfyn amser o 5 munud ei osod ond gellir ei ymestyn ar benderfyniad y person sy’n cadeirio’r cyfarfod.
Cynhelir y Cyngor Tref nesaf ar 17 Tachwedd 2025.
