Neges o’r Maer

Rwy’n falch o gael fy ailethol i wasanaethu fel Maer y Dref ar gyfer 2025/26. Fy elusen am y flwyddyn fydd Ymddiriedolaeth Adsefydlu Cardiaidd Gwent.  Dros y blynyddoedd mae Meiri’r Cyngor Dref wedi codi dros £50,000 ar gyfer elusennau lleol. Y prif ddigwyddiad codi arian oedd y casgliad stryd yn yr arddangosfa tân gwyllt flynyddol yng Nghastell Caerffili.  Yn anffodus, mae’r digwyddiad hwn wedi cael ei atal am gyfnod o flynyddoedd, yn gyntaf oherwydd y pandemig ac yn fwy diweddar oherwydd gwaith adeiladu a chadwraeth yn y Castell.  Ni fydd arddangosfa tân gwyllt yn 2025.

Mae yna lawer o wahanol grwpiau yn y dref – yr ifanc, yr henoed, anabl, cymdeithasol a chwaraeon, diddordebau a hobïau arbennig – i gyd ag anghenion gwahanol. Byddaf yn hapus i dderbyn unrhyw awgrymiadau yr hoffech eu gwneud am waith y Cyngor Dref, neu wybodaeth yr hoffech ei gweld ar y wefan.

Mae’r Cyngor Dref yn cyfarfod yn fisol (ac eithrio Awst a Rhagfyr) ac mae croeso i aelodau o’r cyhoedd fynychu bob amser. Mae cyfarfodydd y Cyngor Dref bellach yn aml-leoliad sy’n golygu y gallwch fynychu o bell drwy’r rhyngrwyd neu yn bersonol yng Nghanolfan Gymunedol Twyn. Os oes mater penodol ar yr agenda yr hoffech siarad arno, gellir trefnu hyn trwy roi hysbysiad i Glerc y Dref. Bydd angen i chi hefyd gysylltu â Chlerc y Dref ychydig ddyddiau cyn cyfarfod i gael y ddolen gwahoddiad mynediad o bell.

Os hoffech i mi fynychu eich sefydliad i nodi achlysur arbennig neu gyflwyno rhywbeth, cysylltwch â Chlerc y Dref. Gallwch ddefnyddio’r Ffurflen Ymholiad Cyswllt i anfon eich gwahoddiad.

Cafodd pandemig Covid effeithiau pellgyrhaeddol ar draws y gymuned gyfan ond mae’n dod yn atgof pell gan mai’r her bresennol yw’r costau byw.  Bydd yn rhaid cynnal yr ymdrechion aruthrol ar draws y dref i gefnogi’r rhai sy’n agored i niwed a’r mwyaf mewn angen gan fod costau byw yn argyfwng dyddiol parhaus i lawer o deuluoedd.

Mike Prew