Ardoll Seilwaith Cymunedol
Mae’r Cyngor Dref yn derbyn 15% o’r derbyniadau Ardoll Seilwaith Cymunedol o ddatblygiadau atebol penodol yn ardal y Cyngor Dref. Mae’r Ardoll yn cael ei weinyddu gan y Gwasanaeth Cynllunio o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Hyd yma mae’r Cyngor Dref wedi derbyn £43,419 i’w wario ar brosiectau lleol.
Mae gwariant o £8,000 wedi’i wneud ar waith celf Coffa Anthem Genedlaethol Cymru yn Y Twyn, sef 50% o gyfanswm y gost, gyda’r 50% arall yn dod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae cyfraniad o £5,000 wedi’i wneud i’r pwyntiau gwefru cerbydau trydan ym maes parcio’r Twyn. Mae cyfraniad o £6,120 wedi helpu i ariannu’r gwaith o uwchraddio’r llifoleuadau yn Eglwys Sant Martin. Gwnaed cyllid o £2,500 tuag at gostau cadw toiledau cyhoeddus yr orsaf fysiau ar agor er eu bod wedi cael eu cau ers hynny nes ailddatblygu gorsaf Caerffili. Roedd gwariant o £5,800 yn talu cost arwyddion 20mya ger Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin.
Gellir anfon awgrymiadau ar gyfer prosiectau yn y dyfodol at Glerc y Dref ond dylent fod o fudd parhaol i drigolion ac ymwelwyr.