Nododd adroddiad i’r Cyngor Dref ar 28 Ebrill 2025 fod gwariant am y flwyddyn wedi’i gwmpasu gan incwm ac nad oedd galw ar gronfeydd wrth gefn. Roedd gwarged bach o £4500 ar gyfrifon diwedd y flwyddyn a fydd yn cael ei ychwanegu at y balansau i’w dwyn ymlaen. Prif ffynhonnell incwm y cyngor yw’r praesept treth gyngor sydd heb gynyddu ers chwe blynedd ac sydd wedi’i gynnal ar £15.50 ar gyfer eiddo Band D. Roedd yr Aelodau yn falch o nodi bod gan y cyngor sefyllfa ariannol iach. Bydd y Datganiad Blynyddol i Archwilio Cymru ar gael i’w archwilio ym mis Mehefin.”